Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro mewn perthynas â phoen yn ei hwyneb. Dywedodd fod ymateb y Bwrdd Iechyd yn rhy ffurfiol ac yn anodd ei ddeall.
Dywedodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd gymryd camau i sicrhau bod Mrs A yn deall yr ymateb.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Mrs A o fewn 1 mis i drafod a oes unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ei helpu i ddeall yr ymateb terfynol, a chynnig cwrdd â hi i egluro’r llythyr a’i helpu i’w ddeall.