Dyddiad yr Adroddiad

10/08/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100574

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms Y fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio i’w chŵyn am y gofal a dderbyniodd ei mam rhwng Ionawr a Rhagfyr 2019.

Er ei bod wedi derbyn cymorth gan eiriolwr i wneud cwyn ar ran Ms Y pan na allai dderbyn ymateb i’r cwynion yr oedd eisoes wedi eu gwneud, dywedodd y Bwrdd Iechyd wrth Ms Y na allai roi ymateb iddi oherwydd nad hi oedd y berthynas agosaf. Mewn ymateb i ymholiadau gan yr Ombwdsmon, roedd y Bwrdd Iechyd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ac wedi cadarnhau y byddai nawr yn ymchwilio i gŵyn Ms Y fel y’i cyflwynwyd gan yr eiriolwr. Cytunodd hefyd i ymddiheuro wrth Ms Y am yr amser a gymrodd i ddelio â’i chŵyn a chytunodd i gynnig iawndal iddi i gydnabod hyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ei bod yn briodol ceisio dod o hyd i ateb arall i gŵyn Ms Y ar sail y camau y cytunodd y Bwrdd Iechyd i’w cymryd, oedd yn rhesymol ac a fyddai’n datrys cwyn Ms Y.