Dyddiad yr Adroddiad

11/29/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202104925

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am 3 agwedd o’r gofal a roddwyd iddi gan y Bwrdd Iechyd pan anwyd ei babi.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i ran 1 o gŵyn Ms X; bod yr oedi wrth ddarparu gofal wedi achosi i’r babi gael anaf ar yr ymennydd ac i ddioddef o ffitiau. Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb i ran 1 o’r gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Cynghorwyd Ms X y gallai gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon unwaith eto ar ôl derbyn ymateb, os byddai’n parhau’n anfodlon.