Dyddiad yr Adroddiad

07/02/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005302

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am briodoldeb y trefniadau ar gyfer rhyddhau ei mam-yng-nghyfraith (Mrs B) o’r ysbyty ar ôl iddi gael ei derbyn yno.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd Mrs B yn bodloni’r meini prawf meddygol ar gyfer rhyddhau fel y’u pennwyd gan yr Ymgynghorydd ac y dylid bod wedi cynnal asesiad grisiau cyn ei rhyddhau. Canfu hefyd, er bod Mrs B wedi dweud y byddai ei merch yn symud ati i’w helpu ar ôl iddi gael ei rhyddhau, ni chysylltwyd yn uniongyrchol â theulu Mrs B i egluro’r trefniant hwn neu i roi cyfle iddynt ofyn cwestiynau am ei rhyddhau. Cadarnhawyd y cwynion hyn. Canfu’r ymchwiliad nad oedd angen gwneud atgyfeiriad i’r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ac nad oedd angen ail brawf COVID-19 cyn ei rhyddhau. O ystyried y diffyg o ran tystiolaeth ddogfennol, nid oedd yn bosibl penderfynu a gynhaliwyd trafodaethau â Mrs B ynghylch pecyn cymorth/gofal. Fodd bynnag, nid oedd dim arwydd clinigol bod angen offer/gwneud unrhyw addasiadau. Ni chadarnhawyd y cwynion hyn.
Er nad oedd yn bennawd cwyn penodol, yn gyffredinol, canfu’r ymchwiliad nad oedd ansawdd y cofnodion oedd yn cael eu cadw gan nyrsys ar y ward yn unol â’r canllawiau perthnasol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi camau gwella ar waith yn y cyswllt hwn.
Roedd y Bwrdd Iechyd hefyd wedi cytuno i wneud y canlynol:
• Ymddiheuro i Mrs A.
• Dosbarthu cylchlythyr i staff nyrsio ynghylch adolygu canllawiau nyrsio perthnasol ac i staff clinigol ynghylch adolygu canllawiau ar sut i gyfrifo a chwblhau siartiau Sgôr Rhybudd Cynnar Cenedlaethol yn gywir.

•Ceisio canfod aelodau penodol o staff y nodwyd nad ydynt yn cydymffurfio â safonau cadw cofnodion, rhoi copi o’r adroddiad iddynt a gofyn iddynt ystyried eu methiannau unigol.
• Gwahodd aelod o’r staff clinigol i bwyso a mesur yr adroddiad a thrafod y canfyddiadau yn eu harfarniad blynyddol nesaf.
• Amlinellu sut y mae’n bwriadu cyfathrebu’n fwy effeithiol â theuluoedd cleifion ynghylch cynllunio ar gyfer eu rhyddhau (yn enwedig yn ystod cyfnod pryd y cyfyngir ar ymweliadau) a sut y bydd cynnydd yn y maes hwn yn cael ei fonitro.