Cwynodd Ms A na ddarparodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) ymateb llawn i gŵyn a wnaeth am ofal a thriniaeth ei mam pan oedd yn yr ysbyty.
Canfu’r Ombwdsmon, er i’r Bwrdd Iechyd ddarparu atebion i’r rhan fwyaf o’r pwyntiau a gododd Ms A, nid oedd wedi darparu ymateb llawn i’ch chwyn ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd y bore y bu farw ei mam.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Ms A, cytunodd i ysgrifennu at Ms A o fewn 30 diwrnod gwaith, i ymhelaethu ar y digwyddiadau a ddigwyddodd mewn perthynas â gofal ei mam ar y bore y bu farw. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac nid ymchwiliodd i’r mater.