Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad, Mr A, ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty ar 2 achlysur rhwng 10 Rhagfyr 2021 a 14 Ionawr 2022. Ystyriwyd a oedd y cyfathrebu â theulu Mr A, gan gynnwys ynglŷn â chyfyngiadau ymweld, yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty, yn ddigonol ac yn briodol, a oedd Mr A yn ddigon da i gael ei ryddhau o’r ysbyty ac a ddylai cynllun gofal fod wedi bod ar waith iddo. Ystyriwyd hefyd a oedd defnyddio haloperidol i drin Mr A yn briodol o ystyried y wybodaeth a roddodd Ms C i’r staff meddygol, ac a ymchwiliwyd yn ddigonol i bryder y gallai Mr A fod wedi llyncu gel dwylo ac a gafodd y pryder ei drin yn briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod y cyfathrebu â theulu Mr A yn ddigonol ar y cyfan, a bod yr ymchwiliad i’r posibilrwydd o lyncu gel dwylo yn briodol. Nid oedd yn bosibl canfod a oedd staff meddygol wedi gweithredu’n groes i wybodaeth a roddwyd gan Ms C wrth roi haloperidol, ond roedd aflonyddwch Mr A yn golygu bod angen ei dawelyddu. Felly, ni chadarnhawyd yr elfennau hyn ar y gŵyn. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad fod elfennau ar ryddhau Mr A yn groes i’r canllawiau perthnasol, na roddwyd sylw digonol i’r penderfyniad i wrthdroi’r sail resymegol flaenorol dros ei gadw fel claf mewnol, ac, o ystyried ei fod wedi cael ei dderbyn yn ôl i’r ysbyty mor fuan wedyn, roedd pryderon ynglŷn â pha mor briodol oedd y penderfyniad i’w ryddhau yn y lle cyntaf. Byddai hyn wedi peri trallod iddo ef a’i deulu, a gallai fod wedi dylanwadu ar ei ddirywiad wedi hynny. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o’r gŵyn.
Argymhellwyd y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms C am y methiannau a nodwyd, a thynnu sylw’r timau meddygol a’r timau nyrsio perthnasol at yr adroddiad hwn a’u hatgoffa bod rhaid dilyn y Polisi Cynllunio Rhyddhau a’r Canllawiau NICE perthnasol ym mhob achos, yn enwedig wrth ryddhau claf oedrannus neu fregus a/neu un ag anghenion gofal cymdeithasol.