Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn benodol, holodd Mrs A a oedd y gwaith metel a roddwyd yn ei harddwrn chwith ym mis Chwefror 2020, yn ogystal â’r llawdriniaeth i’w dynnu ym mis Chwefror 2022, yn briodol.
Canfu’r Ombwdsmon mai rhoi gwaith metel yn arddwrn Mrs A ym mis Chwefror 2020 oedd y driniaeth gywir, ac felly roedd yn briodol. Roedd yr Ombwdsmon hefyd o’r farn bod ei dynnu ym mis Chwefror 2022 yn gam rhesymol i’w gymryd o ystyried y ffaith bod Mrs A wedi sôn ei bod mewn poen. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cyfleoedd wedi’u colli i ddal i adolygu Mrs A yn y cyfamser, ac y gallai fod wedi cael rhywfaint o fudd o therapi llaw pe bai hynny wedi’i roi ar ôl rhoi’r gwaith metel yn ei le. O ganlyniad, ac i’r graddau cyfyngedig hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am y methiannau hyn a’i fod yn rhannu adroddiad yr ymchwiliad gyda’r Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol at ddibenion myfyrio a dysgu, yn enwedig o ran adegau pan fyddir yn ystyried rhyddhau cynnar. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn adolygu gweithdrefnau rhyddhau cynnar o fewn y Tîm Trawma ac Orthopedeg yn erbyn achos Mrs A i ystyried unrhyw bwyntiau dysgu.