Dyddiad yr Adroddiad

05/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308941

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan wasanaethau mamolaeth y Bwrdd Iechyd pan oedd yn rhoi genedigaeth i’w mab ym mis Chwefror 2023. Roedd Miss A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2023.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod peth cynnydd wedi’i wneud gan y Bwrdd Iechyd o ran ymchwilio i gŵyn Miss A, ni chyhoeddwyd ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Ni eglurwyd i Miss A mai adroddiad drafft oedd yr adroddiad a anfonwyd ym mis Chwefror 2024. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb Gweithio i Wella ffurfiol i Miss A, o fewn 20 diwrnod gwaith, ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn.