Dyddiad yr Adroddiad

26/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401702

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei bartner pan oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn arbennig p’un a ddylai fod wedi cael ei symud i’r Uned Gofal Dwys yn gynt ai peidio.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr B, nad oedd wedi rhoi esboniad o’r rhesymau clinigol dros beidio â derbyn ei bartner i’r Uned Gofal Dwys yn gynt. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb pellach i Mr B, o fewn chwe wythnos, yn amlinellu’r rhesymau clinigol dros beidio â derbyn ei bartner i’r Uned Gofal Dwys yn gynharach, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.