Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar chwaer gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”), pan oedd hi yn yr ysbyty cyn ei marwolaeth drist.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod i Ms A, yn brydlon, nad oedd yn gallu ymdrin â’r holl gwestiynau a godwyd yn ei chŵyn gan fod angen cyfeirio rhai at Fwrdd Iechyd arall. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd, y byddai’n ysgrifennu at Ms A o fewn 6 wythnos i ymddiheuro am y camgymeriad wrth beidio â’i hysbysu’n gynt na allai ymdrin â’i holl bryderon, a thalu iawndal o £150, i gydnabod yr oedi a achoswyd iddi cyn cael atebion.