Dyddiad yr Adroddiad

18/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202405002

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r rheolaeth a gafodd yn un o ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) ym mis Ionawr 2022. Roedd hi wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd ym mis Mai 2024, ond roedd wedi gwrthod ymchwilio i’w chŵyn am fod y Bwrdd Iechyd yn honni bod hi wedi cyflwyno ei chŵyn yn rhy hwyr. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith iddi ddarparu ffactorau lliniarol ar gyfer ei chŵyn hwyr.

Nododd yr Ombwdsmon y gall y Bwrdd Iechyd, o dan y rheoliadau cwynion perthnasol, wrthod cwyn os na chaiff ei chyflwyno o fewn 12 mis ar ôl i berson fod yn ymwybodol o’r broblem. Fodd bynnag, wrth wneud hynny rhaid iddo ddarparu esboniad / rhesymeg dros beidio ag ymchwilio. Ni ddigwyddodd hynny yn achos Mrs A. Yn ogystal, ni wnaeth y Bwrdd Iechyd gynnwys manylion cyswllt yr Ombwdsmon yn ei lythyr at Mrs A, pe bai’n anhapus gyda phenderfyniad y Bwrdd Iechyd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol o fewn pedair wythnos:

a) Ysgrifennu at Mrs A yn nodi sut yr ystyriodd ei thystiolaeth arbennig, a’i resymeg dros beidio ag ystyried y rhain ac ymchwilio i’w chŵyn hwyr.
b) Ymddiheuro i Mrs A am beidio â darparu rhesymeg dros wrthod ei chŵyn.
c) Cynnal adolygiad o’i dempled llythyr penderfyniad gwrthod fel bod esboniadau / rhesymeg yn cael eu cynnwys ar gyfer unrhyw wrthodiadau yn y dyfodol, a bod manylion cyswllt Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cael eu hychwanegu.