Cwynodd Mrs A ar ran ei gŵr Mr B, am ei driniaeth a’i ofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru (“yr Ysbyty”) ar ôl cael ei dderbyn i gael triniaeth ar gyfer torri asgwrn ei gefn. Yn benodol, dywedodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi presgripsiwn am forffin (poenladdwr opiad) yn amhriodol ar gyfer Mr B ar ôl cael gwybod ei fod yn sensitif i hynny a bod rheoli ei dorasgwrn cefn gyda brês cefn yn achosi anesmwythder difrifol iddo yn ogystal â thorri ei sternwm ymhellach. Mynegodd Mrs A bryderon hefyd ynghylch methiant y Bwrdd Iechyd i ddiwallu anghenion maeth Mr B, i drefnu gofal a chymorth priodol ar ôl iddo gael ei ryddhau, ac i gyfathrebu â hi am ei gyflwr a’i gynlluniau gofal.
Canfu’r ymchwiliad fod sensitifrwydd Mr B i forffin wedi’i nodi a’i fod wedi cael meddyginiaeth amgen briodol ar gyfer poen. Roedd rheoli torasgwrn cefn Mr B gyda brês cefn hefyd yn briodol ac roedd y toriad i’w sternwm yn fwy na thebyg oherwydd ei gyflwr iechyd a oedd yn bodoli eisoes a oedd yn achosi gwendid yn yr esgyrn. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd Iechyd yn araf yn ymateb i adroddiadau Mr B am boen o ganlyniad i ddefnyddio’r brês cefn, yn ogystal ag adolygu ei addasrwydd.
Roedd diffyg tystiolaeth hefyd o ran asesu maeth, monitro a’r camau a gymerwyd i wella faint oedd Mr B yn ei fwyta pan nodwyd bod hynny’n wael, ac uwchgyfeirio ei ofal yn briodol pan nad oedd ei rwymedd yn cael ei ddatrys. Roedd hyn yn destun pryder gan fod Mr B wedi taflu ysgarthion i fyny fel cymhlethdod tebygol oherwydd ei rwymedd. Fe anadlodd yr ysgarthion, a achosodd haint sylweddol yn yr ysgyfaint ac arhosiad hirach yn yr ysbyty. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad fod staff meddygol wedi methu â chyfathrebu’n effeithiol â Mrs A ynghylch dirywiad yng nghyflwr Mr B ac na fu asesiad nyrsio na chynllunio priodol gyda Mrs A ar gyfer ei ryddhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A, a thalu £500 iddi am y methiannau a nodwyd ac am y trallod a achoswyd. Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd roi hyfforddiant gloywi ar lenwi dogfennau nyrsio sy’n ymwneud ag anghenion maeth, gofal rhwymedd a chynllunio rhyddhau, i sicrhau bod cynlluniau gofal nyrsio yn cynorthwyo staff i roi tystiolaeth o gyfathrebu effeithiol ag aelodau’r teulu, ac i rannu canfyddiadau’r adroddiad â staff meddygol a’u hatgoffa o bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ag aelodau’r teulu i gefnogi eu profiad a’u hargraff o ofal.