Dyddiad yr Adroddiad

24/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202407047

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab ar ôl iddo dorri asgwrn ei benelin. Mynegodd bryderon hefyd ynghylch diffyg llwybr clir a chadarn i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed ag anghenion ychwanegol gael triniaeth.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mrs A yn cydymffurfio â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011. Nid oedd ychwaith yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan Mrs A ynghylch darparu gwasanaethau ehangach. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb cynhwysfawr i gŵyn Mrs A o fewn 6 wythnos (yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011).