Dyddiad yr Adroddiad

05/20/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202001132

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss W am fethiant y Bwrdd Iechyd i ddarparu ffisiotherapi i’w mam, Mrs X, yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty, ac i ddarparu ffisiotherapi a chymorth arall ar ôl iddi gael ei rhyddhau. Roedd Miss W yn credu bod gwahaniaethu wedi bod yn erbyn ei mam oherwydd ei hanabledd (roedd yn dioddef o sglerosis ymledol – “MS”).

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs X yn cael sesiynau ffisiotherapi rheolaidd, wedi’u teilwra i’w gallu ar y pryd, er na wnaethant gyflawni’r hyn yr oedd Mrs X yn gobeithio y byddent yn ei wneud, sef ei galluogi i gerdded eto. Er bod anabledd Mrs X, o reidrwydd, wedi effeithio ar y ffordd yr oedd gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda hi, nid oeddent yn gwahaniaethu yn ei herbyn oherwydd ei hanabledd. Ni fyddai ffisiotherapi parhaus ar ôl iddi gael ei rhyddhau wedi bod yn briodol, ac felly roedd yn rhesymol peidio ag atgyfeirio. Cynhaliwyd asesiadau priodol o anghenion cefnogi Mrs X, a gwnaed trefniadau ar gyfer pecyn o ofal ac offer ar gyfer Mrs X ar ôl iddi gael ei rhyddhau. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.