Dyddiad yr Adroddiad

06/15/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101308

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi am 3 diwrnod cyn trin anaf i droed ei merch. Dywedodd nad oedd y rhesymau a roddwyd iddi ar y pryd yn wir a bod yr oedi wedi achosi mwy fyth o ddioddef a thrallod i’w merch.

Wrth ystyried y gŵyn, nododd yr Ombwdsmon fod elfennau o gŵyn Miss X nad oedd wedi cael sylw llawn yn ymateb cychwynnol y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.

I setlo’r gŵyn cytunodd y Bwrdd Iechyd, erbyn 30 Mehefin 2021, i roi ymateb dilynol i Miss X a fyddai’n delio â’r holl bryderon a godwyd ganddi.