Cwynodd Mr S fod ei wraig wedi ei gadael i aros am lawdriniaeth bellach ar ei phen-glin yn dilyn ei llawdriniaeth gyntaf ym mis Mai 2022. Cwynodd ymhellach nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadw at yr amserlenni a addawyd ac nad oedd ef a’i wraig wedi cael eu diweddaru.
Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i bryderon Mr S ar lafar, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd wedi rhoi ymateb ffurfiol iddo o dan ei weithdrefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi gwneud i Mr S deimlo’n rhwystredig.
Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr S am yr oedi cyn ymateb yn ffurfiol ac i roi ymateb ffurfiol o fewn 30 diwrnod gwaith.