Dyddiad yr Adroddiad

01/08/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202302876

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss L ei bod wedi cael triniaeth anghywir pan oedd yn glaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cwynodd ymhellach ei bod yn teimlo nad oedd unrhyw un yn gwrando ar ei phryderon, a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyfathrebu â hi’n effeithlon.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn yn unol â’i drefn gwyno statudol, ond nad oedd wedi ymateb i bryderon diweddaraf Miss L. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss L am yr oedi cyn ymateb i’w gohebiaeth ddiweddaraf, ac i drefnu cyfarfod gyda hi i drafod ei phryderon ymhellach. Cytunodd y byddai’n gweithredu hyn o fewn 30 diwrnod gwaith.