Cwynodd Mrs C am y gofal a ddarparwyd i’w diweddar dad, Mr P, yn Ysbyty Llwynhelyg (“yr Ysbyty”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”). Dywedodd, pan aeth ei thad i’r Adran Achosion Brys (“AAB”), y cafodd ei ryddhau heb i brofion priodol gael eu cynnal, er ei fod mewn poen difrifol ac yn methu â bwyta. Mynegodd Mrs C bryderon tebyg am dderbyniad diweddarach fel claf mewnol. Roedd Mrs C hefyd yn anfodlon â’r modd y gwnaeth y Bwrdd Iechyd ymdrin â’i chŵyn.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn am yr achlysur pan aeth Mr P i’r AAB gan fod profion priodol wedi’u cynnal a’i bod yn rhesymol ei anfon adref. Daeth yr ymchwiliad hefyd i’r casgliad, pan gafodd Mr P ei dderbyn i’r Ysbyty wedyn, bod ei symptomau’n awgrymu poen yn y frest yn gysylltiedig â phroblemau â’r galon, ac unwaith eto y cynhaliwyd profion priodol. Ni chanfu’r ymchwiliad ddim tystiolaeth bod Mr P wedi sôn am symptomau diffyg archwaeth nac y dylid bod wedi cynnal ymchwiliadau i ymwneud â’i archwaeth. Gan ei bod yn briodol rhyddhau Mr P, ni chadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mrs C ychwaith. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs C am y modd y gwnaeth y Bwrdd Iechyd ymdrin â’i chŵyn, gan ddod i’r casgliad bod y methiannau hyn, gan gynnwys oedi, wedi achosi anghyfiawnder i Mrs C a’r teulu drwy ychwanegu at eu gofid.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs C a’r teulu am y methiannau a thalu £250 i wneud iawn am yr amser a’r drafferth a’r anghyfleustra a achoswyd iddynt.