Dyddiad yr Adroddiad

13/06/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202304865

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Dr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 28 a 29 Rhagfyr 2022 pan oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Llwynhelyg (“yr Ysbyty”). Ymchwiliwyd i’r materion canlynol:

a) A oedd meddyginiaeth lleddfu poen Mrs A yn briodol ac wedi’i fonitro’n ddigonol.

b) A oedd darparu a monitro hylifau ar gyfer Mrs A yn ddigonol.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd priodoldeb meddyginiaeth lleddfu poen, a’r cyfiawnhad dros y dull a ddefnyddiwyd o ran rheoli hylif Mrs A, wedi’u cofnodi’n ddigonol. O ystyried y methiant hwn, nid oedd yn bosib dod i gasgliad pendant bod Mrs A wedi cael ei rheoli’n effeithiol. Mae’r ansicrwydd hwn yn achosi anghyfiawnder i Dr C a’i theulu. Cafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Dr C am y methiant a nodwyd yn yr adroddiad, ei fod yn adolygu dogfennau i fynd i’r afael yn bendant â phriodoldeb rheoli symptomau unigol a gwella profiad cleifion, a’i fod yn atgoffa’r timau Meddygol yn yr Ysbyty o’r angen i sicrhau bod dogfennau clir i esbonio a chyfiawnhau pam y cafodd dull penodol ei chymryd mewn perthynas â gofal claf. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflawni’r argymhellion hyn.