Mynegodd Mrs A nifer o bryderon ynghylch gofal ei modryb y mae ganddi atwrneiaeth ar ei chyfer. Er bod rhai o’i phryderon y tu allan i gylch gwaith yr Ombwdsmon, nodwyd nad oedd ymholiad a wnaeth i’r Bwrdd Iechyd ynglŷn â’r diffyg trafodaethau digonol rhyngddi hi a’r clinigwyr a oedd yn gofalu am ei modryb cyn iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty i gartref nyrsio, wedi cael ei ateb yn ymateb cychwynnol y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.
Felly, cafodd y gŵyn ei setlo ar y sail y byddai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn gwneud y canlynol:
• Yn ymateb eto gan fynd i’r afael â phryderon Mrs A am y drafodaeth cyn rhyddhau.
• Yn ymddiheuro am beidio â mynd i’r afael â hyn yn yr ymateb cychwynnol.
• Egluro a oes ganddi hawl i gael copi o Gynllun Rhyddhau a Throsglwyddo Gofal ei modryb, ac os felly, ei ddarparu.