Cwynodd Mr X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’w gŵyn am ei ofal a’i driniaeth bresennol.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chofnodi ac ymateb i gŵyn Mr X yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X am yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.