Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403125

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am broblemau diffyg atgyweirio a oedd ganddi yn ei heiddo a chyfathrebu Tai Calon (y Gymdeithas Tai) â hi dros y blynyddoedd, yn enwedig o ystyried yr effaith y mae hyn wedi’i chael ar iechyd corfforol/meddyliol y teulu. Mynegodd anfodlonrwydd hefyd nad oedd y Gymdeithas Tai yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi am hynt ei hawliad yswiriant yr oedd wedi’i wneud yn erbyn yswirwyr y Gymdeithas.
Cytunodd y Gymdeithas, drwy setlo, y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Miss A am hynt ei hawliad yswiriant. Cytunodd hefyd i ymddiheuro eto yn ysgrifenedig am y methiannau a nodwyd yn ei hachos ac i ddysgu gwersi a rhoi’r newidiadau ar waith er mwyn atal methiannau tebyg rhag digwydd eto.