Dyddiad yr Adroddiad

27/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202402675

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) mewn perthynas â Rhewmatoleg.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yn glir pam y gwnaed y penderfyniad i beidio â rhoi’r feddyginiaeth fiolegol nesaf ar bresgripsiwn yn unol â chanllawiau NICE, ac roedd yn pryderu bod enghreifftiau clir o wallau ffeithiol yn yr ymateb terfynol.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd drefnu i glinigydd arall fwrw golwg dros y gŵyn er mwyn rhoi ei farn ar y gofal a’r driniaeth ac ateb yr ymholiad sy’n weddill ynghylch a ddylai’r meddyg ymgynghorol fod wedi rhoi cynnig ar feddyginiaeth fiolegol arall, ystyried cais yr achwynydd am gael gweld meddyg ymgynghorol arall, ac ymddiheuro am unrhyw wallau yn yr ymateb terfynol a’u cywiro, a hynny o fewn chwe wythnos, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd ei fod eisoes wedi gweithredu mewn ymateb i gais yr achwynydd am gael gweld meddyg ymgynghorol arall.