Dyddiad yr Adroddiad

23/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202404868

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi camddiagnosis o endometriosis iddi, a’i fod wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth hi ym mis Hydref 2023.

 

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Miss X o fewn cyfnod amser rhesymol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn, a ddylai gynnwys ymddiheuriad ac eglurhad ynghylch yr oedi, ac iawndal o £100 i gydnabod yr oedi a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon, cyn pen 4 wythnos.