Dyddiad yr Adroddiad

29/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202404239

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, pan oedd yn glaf mewnol rhwng mis Ionawr 2023 a mis Mehefin 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod diffygion yn y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfathrebu â’r teulu yn dilyn sgan, a oedd yn nodi metastasisau a amheuir, a sut y cyfeiriwyd at hyn yn ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon y gallai’r wybodaeth hon fod wedi bod yn gliriach. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 4 wythnos, yn ymddiheuro i Ms A nad oedd y teulu wedi cael eu hysbysu o’r metastasisau a amheuir ar eu mam yn dilyn y sgan, ac ymddiheuro y dylai’r ymateb i’r gŵyn fod wedi bod yn gliriach.