Dyddiad yr Adroddiad

31/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202406238

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ddad-cu, Mr B, gan y Bwrdd Iechyd. Ni roddwyd gwybodaeth i Ms A am fiopsi a wnaed yn ystod y dyddiau cyntaf pan gafodd Mr B ei dderbyn i’r ysbyty, ac ni chafodd wybod am ddiagnosis canser Mr B nes iddo gael ei ryddhau o’r ysbyty. Roedd Ms A yn bryderus y cafodd Mr B ei gadw ar sail ‘dim trwy’r geg’, na gafodd feddyginiaeth ac na gafodd ei symud allan o’r gwely yn ystod camau hwyrach yr arhosiad. Roedd Ms A hefyd yn anfodlon â’r ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymchwiliad cychwynnol y Bwrdd Iechyd wedi ystyried yr holl gofnodion clinigol yn llawn nac yn ddigonol. Er bod ymateb pellach wedi’i ddarparu, nid oedd wedi datrys y materion yn llawn ar gyfer Ms A, ac roedd yr wybodaeth a ddarparwyd yn codi cwestiynau pellach.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos, i ystyried cais Ms A am adolygiad meddygol manwl a’r cwestiynau uniongyrchol am diwmor Mr B, ac i ddarparu ymateb i’r gŵyn o dan y broses Gweithio i Wella.