Cwynodd Ms X am y gofal a’r driniaeth wael a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd, a dywedodd nad oedd wedi derbyn ymateb i’w chŵyn a wnaed ym mis Ionawr 2021.
Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus y cafwyd oedi sylweddol a bod Ms X wedi wynebu anghyfleustra oherwydd gweithredoedd y sefydliad. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r mater heb ymchwiliad, ac wrth setlo’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i,
Erbyn 10 Rhagfyr 2021
a) Roi ymateb i gŵyn Ms X
b) Rhoi taliad ex-gratia o £250.00 i Ms X i gydnabod yr oedi a’r cyfathrebu gwael.