Roedd cwyn Ms A yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd gan Adran Dermatoleg y Bwrdd Iechyd yn 2021. Yn benodol, cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymchwilio’n briodol a rhoi diagnosis i’r hyn a oedd yn achosi iddi golli ei gwallt a’i phroblemau croen, a’i fod hefyd wedi methu darparu triniaeth briodol ar gyfer y symptomau hyn.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio, rheoli a rhoi diagnosis yn briodol am symptomau Ms A. Yn hyn o beth, er bod dermatolegydd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried pryderon Ms A ynghylch yr hyn a oedd yn achosi ei symptomau, roedd diagnosis arbrofol y Bwrdd Iechyd yn y pen draw o all-lif telogen (mae all-lif telogen yn digwydd pan fo cynnydd amlwg yn nifer y blew gwallt a gaiff eu colli bob dydd) yn rhesymol. Ni chanfu’r ymchwiliad dystiolaeth ychwaith i awgrymu bod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu triniaeth briodol ar gyfer symptomau Ms A. O ganlyniad, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.