Cwynodd Mr A nad oedd practis deintyddol wedi rhoi triniaeth ar gyfer problem â’i ddant blaen. Dywedodd ei fod wedi gwneud cwyn ynghylch hyn ond nad oedd wedi cael ymateb am fod y practis deintyddol wedi cau ac am nad oedd modd cysylltu â’r deintydd a oedd wedi ei drin.
Canfu’r Ombwdsmon y gallai Gofal Deintyddol Bupa fod wedi ymchwilio ac ymateb i gŵyn Mr A, er nad oedd modd cysylltu â’r deintydd a wnaeth ei drin.
Cytunodd Gofal Deintyddol Bupa i ymddiheuro i Mr A, cynnig taliad o £100 iddo i adlewyrchu’r amser a’r drafferth a gymerodd iddo fynd ar drywydd ei gŵyn, a rhoi ymateb llawn a therfynol i’w gŵyn.