Roedd Mr C, a oedd wedi cwyno wrth y Practis Deintyddol nad oedd dannedd gosod roedd wedi talu amdanynt yn ffitio’n iawn, yn anfodlon bod y Practis Deintyddol wedi dweud wrtho mewn sgwrs dros y ffôn ei fod wedi cael ei “dynnu oddi ar ei gofrestr” oherwydd diffyg ymddiriedaeth. Dywedodd Mr C, a oedd wedi cael ad-daliad am gost ei driniaeth, ei fod bellach yn gorfod dod o hyd i Ddeintydd GIG newydd. Roedd am gael ymddiheuriad am y ffordd y cafodd ei drin.
Ni chanfu’r Ombwdsmon dystiolaeth bod y penderfyniad ei hun i dynnu Mr C oddi ar gofrestr y Practis Deintyddol wedi cael ei wneud yn amhriodol. Fodd bynnag, derbyniodd y Practis Deintyddol fod diffyg yn ei broses ar gyfer ymdrin â chwynion a’r ffordd roedd wedi dilyn ei bolisi ar gyfer tynnu pobl oddi ar ei gofrestr (“y Polisi”) yn achos Mr C. Yn benodol, nid oedd wedi ysgrifennu ato yn nodi’r rhesymau dros ei benderfyniad i’w dynnu oddi ar ei restr ddeintyddol. Ar ôl bwrw golwg dros y Polisi, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod rhywfaint o amwysedd ynghylch yr amgylchiadau pan fyddai llythyr yn cael ei ysgrifennu at glaf.
Cytunodd y Practis Deintyddol, fel rhan o setliad, y byddai’n ymddiheuro i Mr C am y diffygion a ganfuwyd yn y ffordd y dilynodd y Polisi. Yn ogystal â hynny, byddai’n diwygio’r Polisi fel ei bod yn glir y byddai llythyr yn cael ei anfon bob tro y byddai claf yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr ac y byddai gwybodaeth berthnasol yn cael ei rhoi mewn perthynas â chleifion y GIG.