Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2023

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202203363

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth ddeintyddol a dderbyniodd ei mab gan y Ddeintyddfa am anaf i’w ddant blaen. Dywedodd Ms A fod y Deintydd wedi rhoi cyngor anghyson ac anghywir ar gynllun triniaeth ei mab a’r angen i’w gyfeirio at arbenigwr. Roedd Ms A hefyd yn bryderus mai’r Deintydd a oedd wedi rhoi gofal i’w mab a ysgrifennodd yr ymateb i’w chŵyn. Dywedodd nad oedd yr ymateb yn wrthrychol ac nad oedd wedi ateb ei chŵyn. Roedd y Ddeintyddfa hefyd eisiau codi tâl arni am ddarparu copi o gofnodion deintyddol ei mab.

Mewn ymateb i’r ymchwiliad, cytunodd y Ddeintyddfa i adolygu’r gofynion ar gyfer darparu cynlluniau triniaeth ysgrifenedig i gleifion GIG er mwyn atal camddealltwriaeth am ofal yn y dyfodol. Cytunodd y Ddeintyddfa hefyd i ddarparu’r canlynol i Ms A:

a) Ymddiheuro’n llawn am y diffygion cyfathrebu a’r ymateb gwael i’w chŵyn

b) Ymateb mwy cynhwysfawr a gwrthrychol i’w chŵyn

c) Copi di-dâl o gofnodion deintyddol ei mab

Oherwydd bod mab Ms A eisoes wedi’i gyfeirio gan y Ddeintyddfa i dderbyn gofal arbenigol a’i ddant wedi cael ei adfer, teimlai’r Ombwdsmon ei bod yn briodol peidio â pharhau â’r ymchwiliad ar sail y camau y cytunwyd i’w cymryd.