Dyddiad yr Adroddiad

17/02/2025

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202407414

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd iddi gan Bractis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Practis”), a mynegodd bryderon am ei rhyddhau. Dywedodd Miss A fod ymateb y Practis i’w chŵyn yn annigonol, yn amwys, ac nad oedd wedi mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi ymateb yn ddigonol i bryderon Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis y byddai, o fewn un mis, yn rhoi ymateb ysgrifenedig llawn i Miss A, i fynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd yn ei llythyrau.