Dyddiad yr Adroddiad

06/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202201301

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am yr ymchwiliadau, y diagnosis a’r driniaeth gan yr adran Orthopedig ar ôl iddi anafu ei choes ar ôl cwymp. Roedd yn poeni nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn briodol i’r gŵyn a’i bod yn cael problemau parhaus.
Canfu’r Ombwdsmon fod agweddau ar y gŵyn nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb iddynt.
Felly cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau canlynol:
1. Bydd yn darparu ymateb pellach i Ms X o fewn 30 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr hwn (yn cynnwys materion a amlinellir yn fanylach yn y llythyr penderfyniad).
2. Ailadroddodd y Bwrdd Iechyd hefyd ei gynnig i gyfeirio Ms X am ail farn orthopedig ynghylch y diagnosis gweithredol presennol ac unrhyw driniaeth arfaethedig.