Cwynodd Mrs C am Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) a Darparwr Gofal Preswyl cofrestredig (“y Darparwr Gofal”) yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi’i gomisiynu i ddarparu gofal i’w mab, Mr A. Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar a oedd y Bwrdd Iechyd, rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Hydref 2022, wedi methu â sicrhau bod yr anghenion a nodwyd yng nghynllun gofal Mr A yn cael eu diwallu gan y Darparwr Gofal. Mewn perthynas â’r Darparwr Gofal, a oedd e wedi methu sicrhau ei fod yn diwallu anghenion Mr A yn llawn, gan gynnwys y rheini a nodwyd yn ei gynllun gofal, rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Hydref 2022.
Canfu’r Ombwdsmon, ar y cyfan, fod tystiolaeth o gydweithio a monitro da rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Darparwr Gofal. Cafodd hyn ei ddangos drwy adolygiadau rheolaidd, a oedd yn chwarae rhan bwysig yn y broses fonitro, ac yn sicrhau bod y lleoliad yn diwallu anghenion unigol Mr A. Canfu’r ymchwiliad na ddefnyddiwyd TEACCH (“Treatment and Education of Autistic and related Communications Handicapped Children” gynt, sydd bellach yn golygu “Training, Expanding, Appreciating Collaborating and Co-operating and Holistic”) yn ei ffurf fwyaf pur, i reoli Mr A, gan fod y Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau mai ei ymarfer safonol oedd defnyddio PBS (Positive Behaviour Support – fframwaith sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer darparu cymorth hirdymor i bobl ag anabledd dysgu a / neu awtistiaeth). Ni chafodd yr elfen hon o gŵyn Mrs C ei chadarnhau.
Canfu’r ymchwiliad, er nad oedd lleoliad Mr A yn gwbl seiliedig ar fodel puraf TEACCH, roedd tystiolaeth bod egwyddorion TEACCH yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â PBS ac roeddem yn fodlon bod y Darparwr Gofal yn diwallu anghenion Mr A fel y nodir yn ei gynllun gofal. O ganlyniad, ni wnaethom gadarnhau’r elfen hon o gŵyn Mrs C.