Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu datrys ei phryderon hirdymor am ofal a thriniaeth ei mam tra oedd yn byw mewn Cartref Gofal.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi gwybod i Mrs A na allai ymchwilio i’w phryderon am y cartref gofal. Yn hytrach, dywedodd wrthi fod ei chŵyn yn rhy hwyr. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi oedi i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A, o fewn 10 diwrnod gwaith.