Cwynodd Mrs A, gyda chymorth ei mab, Mr B, am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”). Yn benodol, cwynodd Mrs A fod Mr A wedi cael cyfres o anadlyddion ar bresgripsiwn a oedd wedi achosi adweithiau difrifol a niweidiol, a bod Mr A hefyd wedi cael cyngor anghyson a oedd yn peri pryder ynghylch sut i ddelio â’i broblemau iechyd o ran Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (“COPD”) gan ymgynghorwyr anadlol yn ystod nifer o apwyntiadau fel claf allanol. Roedd yr ymchwiliad hefyd wedi ystyried cwynion bod y Bwrdd Iechyd wedi tynnu cefnogaeth y Nyrs Arbenigol – Anadlu a’r Tîm Gofal Lliniarol yn ôl yn amhriodol, a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb yn brydlon i gwynion ffurfiol Mr A am ei ofal a’i driniaeth.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod yr anadlyddion a ragnodwyd i Mr A yn rhai priodol i’w treialu ar gyfer COPD difrifol ac nad oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos eu bod wedi achosi niwed i’r ysgyfaint ac wedi cyflymu’r dirywiad yng nghyflwr Mr A. Daeth yr Ombwdsmon hefyd i’r casgliad fod Mr A wedi cael cyngor priodol gan ymgynghorwyr anadlol ac nad oedd y gwahaniaethau yn y dulliau a awgrymwyd ganddynt i geisio rheoli ei symptomau yn afresymol. Ar ben hynny, canfu’r Ombwdsmon nad oedd cefnogaeth y Nyrs Arbenigol – Anadlu wedi’i thynnu’n ôl yn amhriodol ym mis Mawrth 2022 gan fod bwriad dilyn hyn â gwaith monitro therapi ocsigen. O ganlyniad, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion hyn. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn ynghylch delio â’r gŵyn ychwaith.
Fodd bynnag, er bod yr Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad ei bod yn rhesymol i Mr A fod wedi cael ei ryddhau o ofal y Tîm Gofal Lliniarol, nid oedd y ffordd y cafodd hyn ei gyfleu iddo yn briodol gan na chafodd wybod yn iawn am y penderfyniad i’w ryddhau. Achosodd y diffyg esboniad hwn drallod ychwanegol i Mr A, ac roedd hynny yn anghyfiawnder iddo. I’r graddau cyfyngedig hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am y methiant hwn ac y dylid rhannu adroddiad yr ymchwiliad gyda’r Tîm Gofal Lliniarol er mwyn iddo gael myfyrio ar y canfyddiadau ac er mwyn ei atgoffa o bwysigrwydd cael trafodaethau clir gyda chleifion wrth eu rhyddhau o’i wasanaethau.