Cwynodd Mr X ei fod yn cael anhawster i wneud apwyntiadau yn ei Bractis Meddyg Teulu (a reolir gan y Bwrdd Iechyd) a dywedodd fod staff yn “lletchwith”, yn “feichus” ac yn “ddadleuol” pan oeddent yn dychwelyd ei alwadau ffôn. Honnodd hefyd bod y staff o’r farn nad oes unrhyw beth o’i le arno. Mynegodd bryderon ymhellach ynghylch y newid i faint o feddyginiaeth y mae’n ei gymryd, a dryswch o ran darparu copi o’i recordiadau ffôn i’r staff perthnasol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd drefnu cyfarfod â Mr X (erbyn 30 Medi 2022) fel ei fod yn cael cyfle i chwarae ei recordiadau ffôn i’r staff perthnasol er mwyn iddynt gael eu hystyried ymhellach. Dylai hefyd amlinellu i Mr X sut i ddarparu’r recordiadau iddynt.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.