Cwynodd Mr B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r holl gwestiynau yr oedd wedi’u codi gyda’r Practis Meddygon Teulu. Roedd hefyd yn anfodlon ar y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i gŵyn, gan gynnwys yr amser a gymerwyd i ymateb iddi. Cyfeiriodd at yr effaith a gafodd hyn arno.
Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol o broses y Bwrdd Iechyd o ddelio â’r gŵyn a’i ymateb i’r gŵyn. Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried ei ddyletswyddau rhyddid gwybodaeth yn briodol. Nid oedd ’chwaith wedi ystyried bod angen addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, o ystyried bod Mr B wedi rhoi gwybod i’r Bwrdd Iechyd fod ganddo awtistiaeth a dyslecsia a beth roedd hyn yn ei olygu o ran ei anghenion. O ystyried y straen a achoswyd gan y ffordd wael yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’r gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod hyn wedi achosi anghyfiawnder i Mr B.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B am y methiannau a nodwyd, a thalu iawndal ariannol o £250 i Mr B am yr anhwylustod a’r amser a’r drafferth a achoswyd iddo gan fethiannau’r Bwrdd Iechyd i ddelio â’i gŵyn. Cytunodd hefyd i edrych ar wersi i’w dysgu o achos Mr B ynghylch Rhyddid Gwybodaeth ac addasiadau rhesymol, ac i gymryd mesurau eraill gan gynnwys hyfforddiant priodol ar Ryddid Gwybodaeth a system well o ddogfennu addasiadau rhesymol.