Cwynodd Miss X am y gofal a gafodd gan y Practis yn ystod ac ar ôl triniaeth ar gyfer sianel y gwreiddyn. Dywedodd Miss X ei bod wedi cwyno i’r Practis ond ni roddwyd ymateb ffurfiol iddi.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi ystyried e-bost Miss X fel cwyn ffurfiol ac felly nid oedd wedi rhoi sylw llawn i gŵyn Miss X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Practis i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss X am ei fethiant i gofnodi ei chŵyn ac i roi ymateb ffurfiol iddi o fewn 3 wythnos.