Dyddiad yr Adroddiad

13/12/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202309554

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr A nad oedd Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Practis”) wedi darparu gofal a thriniaeth briodol mewn perthynas â’i symptomau. Cafodd Mr A ddiagnosis o polymyalgia rheumatica yn ddiweddarach. Roedd Mr A yn arbennig o bryderus ei bod yn afresymol i’r Practis roi’r gorau i ddefnyddio steroidau ar ôl gofyn iddynt barhau a rhoi gwybod am boen yn eu habsenoldeb, nad oedd y Practis wedi cynnal y profion gwaed cywir, ac y gallai’r Practis fod wedi cymryd camau i roi diagnosis cynharach i Mr A.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd wedi bod o safon briodol ac nad oedd unrhyw dystiolaeth y gallai’r Practis fod wedi cymryd camau i wneud diagnosis o Mr A yn gynt heb fantais o edrych yn ôl. Felly, ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.