Cwynodd Mrs X na wnaed archwiliad nac asesiad priodol o gyflwr ei diweddar ŵr, sef Mr X yn ystod ymgynghoriad â meddyg teulu ym mis Awst 2021. O ganlyniad, ni roddwyd unrhyw driniaeth briodol ac ni chafodd ei gyfeirio priodol ar gyfer archwiliad pellach.
Er na fyddai’r diagnosis terfynol wedi ei newid, ni ddaeth yr Ombwdsmon o hyd i unrhyw dystiolaeth i ddangos bod asesiad priodol o symptomau Mr X, neu archwiliad priodol, wedi digwydd yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd yr ymateb i’r gŵyn gan y feddygfa hefyd yn annigonol gan arwain ac o’r herwydd bu’n rhaid i Mrs X wneud cwyn i’r Ombwdsmon.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn a chytunwyd ar yr argymhellion canlynol:
• Dylai’r feddygfa adolygu a thrafod y gŵyn mewn cyfarfod Dadansoddi o Ddigwyddiad Arwyddocaol (SEA).
• Dylai’r feddygfa roi ymddiheuriad ysgrifenedig pellach i Mrs X gan adlewyrchu canfyddiadau’r Ombwdsmon, ac egluro canlyniad cyfarfod yr SEA.
• Dylai’r meddyg teulu drafod y gŵyn, a dysgu yn ei sgil, yn ei arfarniad blynyddol nesaf.