Cwynodd Mrs A fod y Feddygfa wedi methu ag ymchwilio i ar ba gam yr oedd clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ei mam, Mrs B, a chanfod canser metastatig.
Er bod y gofal cyffredinol a ddarparwyd i Mrs B yn briodol, penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi rheoli 4 gwaethygiad COPD mewn rhes dros y ffôn, cyn gweld Mrs B am ymgynghoriad wyneb yn wyneb, pan fyddai wedi bod yn briodol ei gweld yn bersonol yn gynt. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa, o fewn 4 wythnos, y byddai’n anfon ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs A am beidio â gweld ei mam yn bersonol yn gynharach ar ôl i’w COPD waethygu.