Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202305597

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr R am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei wraig, Ms R, gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yn benodol, fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried a oedd penderfyniad i ragnodi naproxen (rhan o grŵp o feddyginiaethau sy’n cael eu hadnabod fel NSAIDs (cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd) a ddefnyddir i drin poen, llid a gwres) heb atalydd pwmp proton (“PPI” – meddyginiaeth sy’n lleihau faint o asid a gynhyrchir yn y stumog) yn briodol yn glinigol. Ystyriwyd hefyd a oedd rhagnodi naproxen, heb PPI, yn debygol o fod wedi achosi i Ms R ddioddef gwaedu gastroberfeddol a/neu strôc (lle nad oes cyflenwad gwaed yn mynd i ran o’r ymennydd gan achosi niwed i’r ymennydd).
Canfu’r ymchwiliad fod Ms R wedi cael dos uchel o naproxen ar bresgripsiwn ac felly dylai’r presgripsiwn o PPI fod wedi cael ei gynnig i gyd-fynd â hyn. Roedd y methiant i roi presgripsiwn am PPI wedi rhoi Ms R mewn perygl uwch o brofi digwyddiad gastroberfeddol niweidiol ac y gellid bod wedi osgoi hyn. Cafodd y rhan hon o gŵyn Mr R ei chadarnhau.
Canfu’r ymchwiliad hefyd ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod presgripsiwn o naproxen wedi achosi gwaedu yn llwybr gastroberfeddol Ms R. Byddai rhoi presgripsiwn o PPI i fynd gyda naproxen wedi lleihau’r risg o hyn yn digwydd. Ni ellir byth wybod beth fyddai’r canlyniad wedi bod i Ms R pe bai PPI wedi’i roi ar bresgripsiwn gyda naproxen. Bydd hyn yn achosi ansicrwydd parhaus, sy’n anghyfiawn. Cafodd y rhan hon o gŵyn Mr R ei chadarnhau.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis Meddyg Teulu i ymddiheuro i Mr R a Ms R am fethu â chynnig PPI i Ms R, ac i gynnig taliad o £500 iddyn nhw i gydnabod yr ansicrwydd a’r trallod a achoswyd gan y methiant hwn. Cytunodd hefyd i sicrhau bod y meddyg teulu a roddodd naproxen i Ms R ar bresgripsiwn yn gyfarwydd â chanllawiau NICE ar ragnodi NSAIDS, yn enwedig o ran sut mae lliniaru unrhyw risgiau a allai godi yn sgil hyn drwy ddefnyddio PPI, a phwysigrwydd trafod risgiau gyda chleifion.