Dyddiad yr Adroddiad

17/02/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202401164

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fab, Mr C, gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yn benodol, bu’r ymchwiliad yn ystyried a ddarparwyd triniaeth a gofal clinigol priodol mewn perthynas ag iechyd meddwl Mr C rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Rhagfyr 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi gweithredu’n rhesymol mewn perthynas â’r gofal iechyd meddwl a’r feddyginiaeth a ddarparwyd i Mr C. Fodd bynnag, roedd y gofal clinigol a ddarparwyd gan y Practis i Mr C yn is na safon briodol, ar y sail nad oedd wedi cynnal adolygiad digonol neu briodol o feddyginiaethau ar 3 Awst 2022. Er ei bod yn annhebygol bod yna unrhyw risg rhesymol y gellid fod wedi’i rhag-weld y byddai Mr C yn cymryd gorddos, pan gafodd ei feddyginiaeth ei hadolygu, mae lefel yr ansicrwydd yn anghyfiawnder i deulu Mr C. I’r graddau hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss B am y methiannau a nodwyd yn ymchwiliad yr Ombwdsmon, cynnig £500 yn iawn i gydnabod y methiannau a nodwyd, a rhannu copi o adroddiad yr ymchwiliad gyda’r Practis Meddyg Teulu. Argymhellodd hefyd y dylai’r Practis adolygu ei broses adolygu meddyginiaethau i gynnwys ymdrechion rhesymol i gysylltu â chleifion lle nodir hynny’n glinigol neu lle nodir hynny gan ganllawiau perthnasol.