Dyddiad yr Adroddiad

05/03/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202400319

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar chwaer, Miss A, gan ei Phractis Meddyg Teulu. Fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried a oedd y penderfyniad gan Feddyg Teulu Miss A i beidio â’i rhoi ar bresgripsiwn gwrthfiotigau, yn dilyn ymgynghoriadau dros y ffôn ar 5 a 12 Rhagfyr 2022, yn briodol, ac a oedd yn briodol i’r meddyg teulu fod wedi dod i’r casgliad nad oedd angen cynnal ymweliad cartref.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y penderfyniad gan y meddyg teulu i beidio â rhagnodi gwrthfiotigau i Miss A yn dilyn yr ymgynghoriadau dros y ffôn ar 5 a 12 Rhagfyr yn briodol, ac ar ben hynny, roedd hefyd yn amhriodol i’r meddyg teulu a siaradodd â Miss A yn ystod yr ymgynghoriadau ddod i’r casgliad nad oedd angen cynnal ymweliad cartref. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Miss A oherwydd dylai ei symptomau fod wedi arwain at gael ei derbyn i’r ysbyty ac, o ganlyniad, at asesiad clinigol trylwyr.

Er na allai’r Ombwdsmon fod yn sicr a fyddai canlyniad Miss A wedi bod yn wahanol, mae’r ansicrwydd hwn yn anghyfiawnder parhaus i Miss B a’i theulu. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Practis Meddyg Teulu yn ymddiheuro i Miss B, yn sicrhau bod yr achos yn cael ei drafod â’r meddyg teulu dan sylw ac yn atgoffa ei holl feddygon teulu am bwysigrwydd cadw nodiadau manwl ar asesiadau ac archwiliadau a wnaed ar bob claf.