Dyddiad yr Adroddiad

16/05/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202303422

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd teulu Mr B am y gofal a roddwyd iddo gan ei bractis meddyg teulu ac a oedd methiant i reoli ei Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (“COPD” – cyflwr hirdymor yr ysgyfaint) yn briodol rhwng mis Mawrth 2021 a mis Awst 2022. Yn benodol, a oedd meddyginiaeth Mr B wedi’i rheoli’n briodol; a weithredwyd ar atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill (gan gynnwys Fferyllwyr); a gynhaliwyd adolygiadau priodol; a wnaed atgyfeiriadau priodol; ac; a oedd cynllun triniaeth Mr B yn briodol (gan gynnwys a ddylai camau rheoli pwysau fod wedi bod yn rhan o’r cynllun).

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a roddwyd i Mr B gan y Practis rhwng mis Mawrth 2021 a mis Awst 2022 yn dderbyniol a bod ei COPD wedi’i reoli’n briodol yn ystod y cyfnod hwn. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r 4 cwyn gyntaf. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod cynllun triniaeth Mr B yn dderbyniol yn gyffredinol. Fodd bynnag, collwyd cyfle i nodi pwysau Mr B yn yr adolygiad therapi COPD ar 23 Mehefin 2022 ac, er nad oedd unrhyw arwydd penodol o niwed i Mr B nac y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol, roedd yr ansicrwydd hwn yn anghyfiawnder i Mr B. I’r graddau cyfyngedig hynny’n unig, cafodd yr elfen hon o’r bumed gŵyn ei chadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis ysgrifennu at deulu Mr B i ymddiheuro am y methiant a nodwyd yn yr ymchwiliad. Argymhellodd hefyd y dylai’r Practis gynnal archwiliad o hapsampl o adolygiadau COPD a gynhaliwyd ers 2023 i weld a yw pwysau/BMI yn cael ei gofnodi a bod atgyfeiriadau at ddeietegydd neu gamau priodol eraill yn cael eu cymryd, os yw hynny’n cael ei nodi/yn angenrheidiol.