Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd Mr B pan fynychodd Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn benodol, rheoli’r clwyf yn ei afl a’r penderfyniad i beidio ei atgyfeirio ar unwaith i ysbyty i dderbyn triniaeth frys. Dywedodd Mrs A, pe byddai hyn wedi digwydd, ni fyddai wedi bod angen torri coes chwith Mr B i ffwrdd.
Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw wendidau yn y modd y rheolwyd clwyf yn yr afl Mr B. Daeth i’r casgliad nad oedd atgyfeiriad brys i’r ysbyty wedi’i nodi’n glinigol ac na ellid priodoli’r canlyniad cyffredinol i’r gofal a dderbyniwyd.
Felly, ni chadarnhawyd cwyn Mrs A.