Aeth yr Ombwdsmon ati i ymchwilio i gŵyn Ms D ynghylch a oedd y Practis wedi darparu gofal clinigol priodol, mewn perthynas â’i gofal ôl-enedigol yn ystod ymgynghoriad ym mis Ionawr 2024. Fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried hefyd a oedd unrhyw oedi wrth ddelio ac ymateb i’r gŵyn yn dderbyniol.
Mewn ymateb i ymchwiliad yr Ombwdsmon, cadarnhaodd y Practis nad oedd gofyniad yn ei gontract iddo gynnal archwiliad ffurfiol ar ôl geni ar y dyddiad yr ymchwilir iddo. Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw arwydd bod y Practis wedi methu â darparu gofal ôl-enedigol priodol yn y cyswllt hwnnw. Fodd bynnag, roedd Ms D wedi bod yn bryderus am yr wybodaeth a roddwyd iddi i’r gwrthwyneb pan drefnodd ei hapwyntiad, a derbyniodd y Practis fod gwybodaeth a oedd ar gael i gleifion ar wefan y Practis yn awgrymu y byddai archwiliad ôl-enedigol yn cael ei gynnal. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai hyn fod yn gamarweiniol i gleifion a’i fod yn fethiant na roddwyd sylw iddo yn yr ymateb i gŵyn Ms D. Cadarnhaodd y Practis y camau roedd wedi’u cymryd, ac y byddai’n eu cymryd, i sicrhau bod staff a meddygon teulu yn cyfleu gwybodaeth briodol i gleifion, ac i ddiweddaru’r wybodaeth ar ei wefan.
Roedd y Practis eisoes wedi ymddiheuro am yr oedi a brofodd Ms D wrth dderbyn ymateb i’w chŵyn. Yn ei sylwadau i’r Ombwdsmon, rhoddodd esboniad a sicrwydd hefyd bod oedi wrth ddelio â chwynion wedi digwydd o ganlyniad i anawsterau gweinyddol eithriadol wrth i’r practis uno’n ddiweddar â phractis arall. Cadarnhaodd fod yr anawsterau hynny wedi’u datrys erbyn hyn a’u bod bellach yn gallu cadw i fyny â’u llwyth gwaith gweinyddol eto.
Mewn perthynas â’r mater cyntaf, cytunodd y Practis i ymddiheuro i Ms D na chafodd y wybodaeth ei gwneud yn gliriach ymlaen llaw, ac i roi cadarnhad/esboniad pellach iddi am y camau y mae’r Practis wedi’u cymryd/y bydd yn eu cymryd. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cam hwn yn briodol.
O ran ail bwynt y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn na fyddai’n deg iddo barhau â’i ymchwiliad gan nad oedd fawr ddim mwy y gellid ei gyflawni. Rhoddodd yr Ombwdsmon y gorau i’r ymchwiliad ar y sail hon.