Cwynodd Miss A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar frawd, Mr B, gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Practis”). Cwynodd Miss A yn benodol nad oedd y Practis, rhwng 26 Ionawr a 13 Mawrth 2023, wedi darparu gofal a thriniaeth briodol i Mr B a chynnal ymchwiliadau priodol i’w ddiffyg anadl.
Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Mr C gan y Practis yn is na’r safonau disgwyliedig. Y rheswm am hyn yw, er bod hanes priodol wedi’i gymryd, roedd yr archwiliad a gofnodwyd ar 26 Ionawr 2023 yn annigonol ac roedd y cynllun dilynol neu’r cynllun rhwydi diogelwch yn absennol. Methodd y Practis â chymryd camau priodol i ymchwilio i ddiffyg anadl Mr B gan nad oedd wedi gwneud cynllun dilynol i adolygu, ymchwilio nac atgyfeirio Mr B. Felly, fe wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis ymddiheuro i Miss A am y methiannau a nodwyd a darparu tystiolaeth ei fod wedi myfyrio ar y gofal a ddarparwyd ac wedi ymgymryd â dysgu perthnasol.