Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei thad, Mr B, gan feddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn benodol, cwynodd Mrs A fod rhagnodi ei thad gyda naproxen yn amhriodol o ystyried ei hanes o fethiant arennol. Cwynodd hefyd nad oedd yn briodol ei ragnodi gydag Atalydd Pwmp Protonau (“PPI”) a bod y Feddygfa wedi colli cyfle i weld perthnasedd ei arddwrn a’i law wedi chwyddo â methiant arennol ar 21 Medi 2022.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y penderfyniad i ragnodi naproxen yn briodol. Nid oedd y presgripsiwn ar y dos isaf am y cyfnod byrraf posib. Nid oedd y penderfyniad i beidio â rhagnodi PPI yn briodol chwaith er y canfuwyd, pe bai wedi’i ragnodi, na fyddai wedi effeithio ar p’un a fyddai Mr B wedi dioddef effeithiau andwyol ar yr arennau ai peidio. Er i’r Ombwdsmon ganfod nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi’i chofnodi i ddangos bod y Feddygfa wedi colli cyfle i wneud diagnosis o fethiant arennol, roedd yn derbyn bod hyn yn bosib.
Felly, fe wnaethom gadarnhau cwyn Mrs A am y Feddygfa. Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Feddygfa, o fewn mis, yn ymddiheuro’n ystyrlon i Mrs A am y methiannau a nodwyd, yn rhoi diweddariad ystyrlon ar y camau y mae’r Feddygfa wedi’u cymryd ac yn sicrhau bod pob meddyg teulu yn ymwybodol o’r canllawiau presennol o ran rhagnodi a monitro naproxen, gan gynnwys rhagnodi PPI.